Canllaw i ddechreuwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol

Un o’r dathliadau enwocaf ac, yn ddiau, uchafbwynt diwylliant Cymru, yw’r Eisteddfod Genedlaethol, sy’n ddathliad blynyddol o bopeth Cymraeg a Chymreig. Er bod yr ŵyl yn cael ei chynnal yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n ŵyl sy’n hygyrch i bawb, pa un a allwch ddweud ambell ymadrodd, neu eich bod am roi cynnig arni neu gael eich trwytho yn yr awyrgylch.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Llanrwst, Gogledd Cymru, a hynny o’r 3ydd i’r 10fed o Awst.

Tarddiad yr Eisteddfod

Mae’r Eisteddfod yn ddathliad blynyddol o ddiwylliant Cymru, a gellir olrhain elfennau ohono yn ôl i deyrnasiad Rhys ap Gruffydd, Tywysog Deheubarth, dros 850 mlynedd yn ôl. Yng Nghastell Aberteifi, yn ystod Nadolig 1176, cynhaliwyd digwyddiad a fyddai’n pwysleisio statws Rhys fel y pennaeth mwyaf diwylliedig a phwysicaf yng Nghymru. Fel pob tywysog Cymreig Canoloesol, roedd Rhys ap Gruffydd yn noddi beirdd, beirdd a fyddai, yn eu tro, yn ysgrifennu arwrgerddi a oedd yn canmol ei rinweddau a’i allu fel tywysog.

Mae’r Eisteddfod fodern yn amlygu sawl elfen a oedd i’w gweld yn eisteddfodau Cymru’r Oesoedd Canol. Byddai’r dathliad yn cael ei gyhoeddi flwyddyn ymlaen llaw, a gwahoddid clerwyr a beirdd o bob cwr o’r wlad i gystadlu. Fel yn yr ŵyl fodern, byddai cadair farddol yn cael ei dyfarnu i’r bardd gorau.

Yn ystod y dathliadau modern, mae’n hawdd dychmygu’r hwyl a oedd i’w weld, yn ddi-os, yn 1176: y canu a’r dawnsio, y gwledda a’r fflyrtian, yr hwyl a’r chwerthin. Bydd pob un o’r elfennau hyn yn Llanrwst yr haf hwn!

Eisteddfod heddiw

Er hynny, ni ddigwyddodd elfennau o’r Eisteddfod fodern yn 1176, yn ddi-os. Deilliodd llawer o’r hyn a welwch yn yr ŵyl eleni o ddychymyg byw Iolo Morgannwg yn ystod seremoni ddiwylliannol a gynhaliwyd yn Primrose Hill, Llundain yn 1797.

Yr hyn a grëwyd yn benodol bryd hynny oedd Gorsedd y Beirdd, a rhagwelai Iolo mai’r orsedd hon fyddai gwarcheidwad iaith a diwylliant Cymru. Dyfeisiadau Iolo yn llwyr oedd y Derwyddon yn eu gwisgoedd glas, gwyrdd a gwyn, ac eto maent wedi dod yn un o nodweddion mwyaf adnabyddus yr Eisteddfod fodern.

Beth y gallwch ei ddisgwyl?

Felly, beth sydd yna i’w wneud ar y Maes? Y Maes yw’r fan lle y dewch chi o hyd i’r prif atyniadau a’r llu o bebyll a stondinau sy’n gartref i’r cystadlaethau blynyddol, ynghyd â mannau diddorol eraill.

Mae pobl o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, yn cystadlu mewn sawl categori i ennill gwobrau mawreddog. O wrando ar neu wylio’r prif gystadlaethau canu, dawnsio ac adrodd yn y prif Bafiliwn (canolbwynt Maes yr Eisteddfod), i brofi’r perfformiadau actio, cerddorol a barddonol eraill ar y llwyfannau llai, mae yna nifer o berfformiadau i ddewis ohonynt.

Corau enwog Cymru sy’n tueddu i ddenu mwyafrif yr ymwelwyr, felly mae’n bwysig nodi y bydd efallai’n ofynnol archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y pafiliwn.

Ar gyfer plant ac oedolion

Mae’n well gan lawer o ymwelwyr â’r Maes eu trwytho eu hunain yn yr adloniant rhad ac am ddim sydd ar gael y tu allan i’r prif Bafiliwn. Mae bandiau byw yn chwarae ar y llwyfannau llai o gwmpas y Maes (ac ar Faes B), ac mae yna hefyd nifer o stondinau sy’n gwerthu amrywiaeth o gynnyrch Cymreig. Mae’r cynnyrch a werthir yn amrywio o gofroddion cartref i frandiau cyfarwydd. Wedi i chi bori trwy’r stondinau, dylai blasu’r bwyd a diod lleol hyfryd fod yn uchel ar eich agenda – y cyfan o Gymru ac o’r safon uchaf!

Mae yna ddigonedd o adloniant ar gael ar gyfer y rhai bach hefyd, gyda sioeau rheolaidd gan gast Clwb Cyw S4C, ac ymddangosiadau arbennig gan gymeriadau poblogaidd fel Sali Mali, Dona Direidi a Ben Dant, i enwi dim ond rhai. Mae Maes B yn fan poblogaidd ar gyfer y bobl ifanc hŷn ac oedolion ifanc, lle gallant fwynhau cerddoriaeth fyw a chael amser da.

Mannau diddorol eraill yw’r stondinau niferus sy’n cynnig amrywiaeth o brofiadau, gan gynnwys celf a chrefft, dillad a gemwaith Cymreig, ac ati. Mae yna hefyd stondinau ar gael i’r rhai sydd â diddordeb mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, hanes cenedlaethol a lleol, chwaraeon, gwleidyddiaeth, addysg, amaethyddiaeth – mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Pa un a ydych yn bwriadu ymweld am y dydd, neu am yr wythnos gyfan, mae yna wastad arwyddbyst da i’ch cyfeirio i’r Maes, ac mae mynediad yn hawdd. Mae Llanrwst yn daith ddeugain munud ddymunol o’n gwesty, sy’n cynnwys mynd trwy olygfeydd dramatig Eryri, yn ogystal â thref hardd Betws-y-coed. Argymhellwn eich bod yn gadael y car ym Metws ac yn neidio ar drên  Rheilffordd Dyffryn Conwy i Lanrwst. Bydd hon yn ffordd wych o osgoi tagfeydd traffig, ac yn llwybr a fydd yn golygu eich bod yng nghanol y bwrlwm cyn gynted ag y byddwch yn dod oddi ar y trên!   

At ei gilydd, mae gan yr Eisteddfod rywbeth i’w gynnig i bawb. Pam na rowch chi gynnig arni?

Translation courtesyCymraeg byd Busnes/Welsh for Business.

Images courtesy: © Crown copyright (2013) Visit Wales, all rights reserved