Dewch i ddysgu am chwedlau Cymru … hanes

Mae Gogledd Cymru yn llawn hanes, chwedlau, mythau a chwedloniaeth. Gallwch dystio’r rhain yn y placiau a’r arwyddion sydd wedi’u gosod ledled y rhanbarth, yn ogystal ag yn y cestyll a’r plastai crand sy’n frith ar hyd y tirlun.

Ym mlog cyntaf ein cyfres sy’n edrych ar rai o ‘Chwedlau Cymru’, rydym wedi tynnu sylw at lond dwrn o ffigurau hanesyddol pwysig, trawiadol a blaenllaw o Ogledd Cymru.

Teyrnas Gwynedd

Yn dilyn gormes y Rhufeiniaid, daeth Teyrnas Gwynedd i amlygrwydd ym Mhrydain oddeutu’r pumed ganrif. Yn cwmpasu Gogledd-orllewin Cymru, byddai arweinwyr y deyrnas yn aml yn cael eu cyhoeddi yn ‘Frenhinoedd y Brythoniaid’, gan arddangos mawredd hanesyddol yr ardal a enillodd ei phlwyf fel y rhanbarth mwyaf pwerus yng Nghymru.

Caraf i, mawr elyn Lloegr, dir agored y Gogledd heddiw,

A’r lliaws llwyni ym mro Lliw.

Caraf y sawl a roes imi [fy] nymuniad [o] fedd

Lle cyrhaedda’r moroedd maith eu terfysg.

Caraf ei gosgordd a’i haml drigfan o’i mewn,

Ac wrth fodd ei brenin reoli rhyfel.

Hywel ab Owain Gwynedd, Bardd Rhyfel.

Kathleen Anne Bramley (gol.) ac eraill, Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994).

Teyrnas Gwynedd, tua 1247

Owain Gwynedd

Cipiodd yr arweinydd canoloesol pwerus, Owain Gwynedd (a aned tua 1100), reolaeth dros Wynedd yn 1132, a hynny yn dilyn marwolaeth ei frawd Cadwallon. O dan ei reolaeth ef, ymestynnwyd ffiniau Gwynedd at diroedd y Gororau (sef siroedd Lloegr sydd ar y ffin â Chymru). Lansiodd Owain hefyd ymosodiad milain ar Bowys.

Ymosododd Harri II ar Wynedd yn 1157, gan orfodi Owain i gytuno ar delerau; fodd bynnag, llwyddodd Owain i drechu Harri mewn brwydr ddiweddarach ar y cyd â thywysogion Cymreig eraill. Ni fentrodd Harri II herio Owain fyth eto. Bu farw Owain yn 1170, yn llywodraethwr hollbwerus dros y deyrnas.

Mae Owain Gwynedd wedi’i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Llywelyn Fawr

Llywelyn Fawr, a elwir hefyd yn Llywelyn ab Iorwerth (ac a aned tua 1173), oedd Brenin Gwynedd, a bu’n arwain Cymru gyfan am bron hanner canrif. Roedd Llywelyn yn ŵyr i Owain Gwynedd.

Cytundeb 1201, rhwng Llywelyn â’r Brenin John, yw’r enghraifft gynharaf sydd wedi goroesi o gytundeb rhwng Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, ni pharhaodd y cysylltiadau cyfeillgar yn hir, ac ar ôl cyfres o frwydrau, penodwyd Llywelyn yn arweinydd Tywysogion Cymru. Mae llawer o haneswyr yn cytuno na ddaeth yr un llywodraethwr arall dros Gymru erioed yn agos at bŵer gwleidyddol Llywelyn.

Image courtesy of Rhion Pritchard, 2006.

Mae cerflun o Llywelyn Fawr i’w weld ar y sgwâr yn nhref Conwy.

Owain Glyndŵr

Gorau Cymro, tro trylew

Piau’r wlad, lin Pywer Lew,

Gŵr meingryf, gorau mangre,

A phiau’r llys; hoff yw’r lle.

Iolo Goch, Bardd.

Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988).

Ganed Owain Glyndŵr, un o’r ffigurau enwocaf heb amheuaeth yn hanes Cymru, tua 1349. Mae ei ddylanwad a’i etifeddiaeth yn ymestyn at lenyddiaeth glasurol hyd yn oed – fe’i disgrifir yn nrama Shakespeare, Henry IV, fel gŵr nad yw’n debyg i wŷr cyffredin – “not in the roll of common men”.

Ag yntau’n ddisgynnydd i Dywysogion Cymru, lansiodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn Harri IV yn 1400 – a elwid wedi hynny yn Wrthryfel Glyndŵr. Hwn oedd y gwrthryfel mawr, treisgar diwethaf o blaid annibyniaeth i Gymru, ac mae ei etifeddiaeth yn golygu bod Owain Glyndŵr yn parhau i gael ei gydnabod yn biler dros genedlaetholdeb Cymreig, yn ogystal â Thywysog olaf Cymru.

‘Y Mab Darogan’ – cerflun o Owain Glyndŵr, Corwen.

William Morgan

  • The English tongue is not understood by the greatest number of Her Majesty’s obedient subjects inhabiting Wales.

  • Deddf Seneddol, 1563

Bu William Morgan, a aned tua 1545 ger Betws-y-coed, yn astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn dod yn Offeiriad gydag Eglwys Loegr. Yn ddiweddarach, daeth yn Esgob Llandaf a Llanelwy, ond mae’n fwyaf adnabyddus am ei waith yn cyfieithu’r Beibl cyfan i’r Gymraeg. Roedd y cyfieithiad hwn yn drobwynt i’r iaith Gymraeg a chrefydd yng Nghymru.

Hedd Wyn

Ganed Ellis Humphrey Evans yn 1887 yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd. Roedd yn fardd talentog o’r dechrau’n deg a bu’n cystadlu mewn sawl Eisteddfod. Cafodd ei enw Barddol, Hedd Wyn, yn 1910, ac enillodd Gadeiriau yn Eisteddfod y Bala, Pwllheli a Llanuwchllyn.

Er ei fod yn heddychwr, aeth Ellis ati’n arwrol i ymuno â’r fyddin, er mwyn arbed ei frawd iau rhag gwneud hynny. Ysbrydolwyd llawer o’i gerddi enwocaf gan y rhyfel. Cafodd Ellis ei ladd yn drasig yn ystod oriau cyntaf Trydedd Brwydr Ypres yn 1917. Mae’n parhau i fod yn un o’r llenorion a’r artistiaid gorau yng Nghymru, ac mae ei gerdd a ddaeth yn deilwng am gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ‘Yr Arwr’, yn parhau i gael ei chlodfori’n helaeth.

Detholiad o’r gerdd ‘Rhyfel’

Mae’r hen delynau genid gynt

Ynghrog ar gangau’r helyg draw,

A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,

A’u gwaed yn gymysg efo’r glaw.

Yr Ysgwrn, ger Trawsfynydd

Betsi Cadwaladr

  • An unconventional Welsh woman who was ahead of her time.

  • Ffion Hague, awdur

Ganed Betsi Cadwaladr, a oedd yn un o 16 o blant, ger y Bala yn 1789. Treuliodd Cadwaladr, a newidiodd ei henw maes o law i Davis, ran fawr o’i blynyddoedd cynnar yn gweithio fel morwyn, a arweiniodd at gyfleoedd i deithio, gan gynnwys teithio i Ffrainc yn ystod Brwydr Waterloo. Yno, effeithiwyd yn fawr arni gan y milwyr a anafwyd ar faes y gad.

Pan ddaeth yn ôl i Brydain, aeth ati i hyfforddi i fod yn nyrs yn Llundain, ac ymunodd â’r gwasanaeth nyrsio milwrol pan oedd yn 65 mlwydd oed. Yn groes i ewyllys Florence Nightingale, y nyrs ‘enwog’ o’r dosbarth uchaf (nad oedd ganddi fawr o feddwl o’r Cymry), aeth Betsi i’r Crimea i weithio. Er i’r ddwy anghydweld ar sawl achlysur, roedd Nightingale ac eraill yn cydnabod gwaith hanfodol Betsi yn achub bywydau ar flaen y gad. Mae’n cael ei chofio’n aml am ei phendantrwydd a’i pharodrwydd i ymladd yn erbyn biwrocratiaeth er mwyn gwneud ei gwaith. Caiff Betsi ei chofio fel arloeswraig yn y byd nyrsio, ac mae Bwrdd Iechyd Lleol Gogledd Cymru wedi cael ei enwi ar ei hôl.

Cysegru Carreg Fedd Betsi Cadwaladr ym mynwent Parc Abney. Codwyd y cronfeydd ar gyfer y garreg fedd gan nyrsys a oedd yn gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

  1. T.E. Lawrence

Ganed Thomas Edward Lawrence, a oedd yn archaeolegydd, yn swyddog gyda’r fyddin ac yn ddiplomydd adnabyddus, yn Nhremadog yn 1888. Bu’n gweithio i’r Amgueddfa Brydeinig yn Syria yn ystod yr 1910au cynnar, cyn gwirfoddoli i’r fyddin maes o law a chael ei anfon i’r Aifft gyntaf.

Yn 1916, cafodd ei anfon i Arabia, lle bu’n gweithio ochr yn ochr gyda Faisal, arweinydd y Gwrthryfel Arabaidd. Ar ôl y rhyfel, bu Lawrence yn gweithio i’r Swyddfa Dramor, cyn encilio o fywyd cyhoeddus yn y pen draw a chyhoeddi cofnod o’i brofiadau ei hun yn Arabia, sef Seven Pillars of Wisdom. Mae’r ffilm enwog, Lawrence of Arabia, yn seiliedig ar fywyd Lawrence.

  • The world looks with some awe upon a man who appears unconcernedly indifferent to home, money, comfort, rank, or even power and fame. The world feels not without a certain apprehension, that here is some one outside its jurisdiction; someone before whom its allurements may be spread in vain; some one strangely enfranchised, untamed, untrammelled by convention, moving independent of the ordinary currents of human action.

  • Winston Churchill

    Winston Churchill (ail o’r chwith) a T. E. Lawrence (pedwerydd o’r chwith) yn Cairo, 1921.

    Cadwch olwg ar ein blog a dewch i ddysgu rhagor am Chwedlau Gogledd Cymru fis nesaf!

  • Translation courtesyCymraeg byd Busnes/Welsh for Business.