Ein tirwedd llechi wedi ei henwebu am Statws Treftadaeth y Byd UNESCO

Rydym ni yng Ngogledd Cymru yn ffodus iawn i gael mwy na’n cyfran deg o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, ond efallai y bydd ychwanegiad at ein portffolio treftadaeth cynyddol os bydd ymgyrchwyr yn llwyddo.

I geisio ymuno â’r urddasol Ddyfrbont Pontcysyllte ger Llangollen a chestyll canoloesol Edward I, mae tirwedd llwm a stoic diwydiant llechi Eryri wedi cael ei henwebu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am Statws Treftadaeth y Byd. 

Gadawodd y diwydiant llechi farc annileadwy ar Wynedd ac Eryri. Mae olion gweithfeydd uwchben ac o dan y ddaear, tomennydd llechi anferth, bythynnod chwarelwyr wedi’u gadael a phyllau glas rhewllyd yn britho’r bryniau o Flaenau Ffestiniog i Fethesda a thu hwnt.

Ar ei anterth, dywedid bod y diwydiant llechi wedi toi’r byd, roedd yr allforion aur glas o Ogledd Cymru mor enfawr. 

Helen Whately, y Gweinidog Treftadaeth, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r cais i UNESCO. Dywedodd: “Mae’r enwebiad hwn yn ffordd wych o gydnabod pwysigrwydd treftadaeth chwareli llechi Cymru, a bydd yn arwain at fanteision nid yn unig i Wynedd ond i Ogledd Cymru gyfan, drwy ddenu ymwelwyr, hybu buddsoddiad a chreu swyddi.”

Roedd llechi’n cael eu cloddio yma am bron i 2,000 o flynyddoedd, a chyrhaeddodd y galw ei anterth yn niwedd y 19eg ganrif wrth i drefi a dinasoedd ehangu i gyd-fynd â’r Chwyldro Diwydiannol. Fe’u defnyddiwyd i doi pob math o adeiladau – o fythynnod gweithwyr di-sylw i ffatrïoedd enfawr a chanolfannau dinesig mawreddog – cynhyrchai diwydiant llechi Cymru 485,000 tunnell o lechi y flwyddyn gan gyflogi dros 17,000 o bobl. 

Hyd yn oed heddiw mae llechi yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr am eu defnyddioldeb; mae’n ddeunydd gwydn iawn ond yn ysgafn ac yn dal dŵr (nodwedd ddefnyddiol, o ystyried y tywydd yng Nghymru).  

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd fod Tirwedd Llechi Gogledd Cymru’n cael ei chyflwyno fel enwebiad nesaf y DU ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol sy’n haeddu cael ei dathlu.”

Bydd y rhanbarth yn awr yn cael ei ystyried gan y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd cyn cael ei ystyried wedyn yng nghyfarfod Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn 2021.

Dywedodd Cynghorydd Datblygu Economaidd Gwynedd, Gareth Thomas: “Nid yn unig y mae’r cais yn helpu i ddathlu a chydnabod ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith unigryw, bydd hefyd yn agor y drws i adfywio economaidd ar draws yr ardal.”

Os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am ein treftadaeth lechi, mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol ond yn daith fer ar droed o’r gwesty. Mae’r amgueddfa hanes byw hon yn cynnig cipolwg ar fywydau bob dydd y dynion a’r menywod a weithiodd mewn amgylchiadau peryglus i ateb y galw am y nwyddau gwerthfawr yma.

O’r gwesty, gallwch hefyd fynd yn agos iawn at y dirwedd drwy gerdded rhan o Lwybr Llechi Eryri. Mae’r llwybr yn mynd â chi i fyny uwchben Llanberis gan gynnig golygfeydd godidog o Lyn Padarn a chwareli Vivian a Dinorwig cyn disgyn i lawr i Waunfawr.